Mae’r Ymddiriedolaeth o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n barod i roi peth o’u hamser i’r Amgueddfa.

Cyfleoedd

Mae nifer o gyfleoedd i chi helpu yn cynnwys:

  • Tywys teithiau o amgylch yr amgueddfa  i’n hymwelwyr a grwpiau o amryw gymdeithasau
  • Darparu croeso ym mlaen y tŷ a’r dderbynfa
  • Garddio i helpu ni ofalu ein borderi blodau a’n lawntiau
  • Helpu gyda chynnal a chadw cyffredinol yn yr amgueddfa
  • Cynorthwyo gyda’n digwyddiadau codi arian fel ffeiriau hen bethau Nantgarw
  • Cynnal cynnwys ein gwefan a darparu cymorth TG
  • Tasgau gweinyddol a marchnata

Mae ein gwirfoddolwyr yn cael ei hyfforddi’n llawn ar y gweithgareddau a gytunwyd ac yn derbyn y wybodaeth a’r cymorth sydd angen i’w galluogi  cyflawni’r tasgau gyda hyder. Mae arweiniad a chyngor ar gael o hyd.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.