Date (s)

10 Medi 2017

Time

10:00 am - 4:00 pm

Gwnewch gawell gardd i gasglu llysiau a blodau o’ch gardd.

Bydd y cwrs yma yn cynnwys gwahanol dechnegau gwehyddu helygen.  Dyma ein cwrs mwyaf poblogaidd.   Bydd y cawell gardd hardd yn rhoi cyflwyniad i wehyddu ffram fasged.  Bydd y tiwtor yn dangos fel i greu ffram, i ychwanegu asennau i greu siap y fasged ac i ychwanegu’r gwehyddu wrth gynllunio patrwm eich hun.  Cewch ddydd hyfryd mewn lleoliad hardd yn dysgu crefft draddodiadol.

Cost y cwrs yw £60 i’w talu trwy Paypal, trosglwyddiad banc neu siec.  Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Crochendy Nantgarw.

Rydym yn darparu’r holl offer a defnyddiau a byddwch yn mynd adref a phopeth rydych yn creu.  Bydd te, coffi a chacen ar gael ond plis dewch a’ch pryd canol dydd gyda chi.

Mae tiwtor y cwrs, Sarah Hatton, wedi gwehyddu helygen ers 2008.  Mae hi wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau mawr yn cynnwys creu 70 basged rhodd i arweinwyr y byd oedd yn mynychu Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd.  Cafodd Sarah ei gwobrwyo gan Gwnaed a Llaw, Caerdydd gyda’r Wobr Arddangos Crefft yn 2015 . Mae hi’n tyfu ei helygen ei hun yng Nghaerffili sy’n sicrhau bod gyda hi gyflenwad trwy’r flwyddyn o helygen gynaliadwy.

Bydd eich tiwtor Sarah yn eich tywys trwy’r cwrs cam wrth gam i sicrhau y byddwch yn mynd adref gyda rhywbeth y byddwch yn falch iawn ohonno.

 

No Categories