Date (s)

29 Medi 2019

Time

10:00 am - 4:00 pm

Gwnewch garw i osod tu fas eich cartref dros yr Ŵyl.
Ar y cwrs yma byddwch yn dysgu creu delw helygen.  Wedyn byddwch yn adeiladu’r helygen i greu carw helygen.  Cewch ddydd hyfryd mewn lleoliad hardd yn dysgu crefft hynafol.

Pris y cwrs yw £60 yn daladwy trwy Paypal, trosglwyddiad banc neu siec. Cynhelir y cwrs rhwng 10:00am and 4:00pm yng Nghrochendy Nantgarw.

Bydd deunydd a chyfarpar ar gael i chi a byddwch yn mynd adref a phopeth rydych yn creu.  Darperir te, coffi a chacen trwy gydol y dydd ond plis dewch a phryd canol dydd gyda chi.

Mae Sarah Hatton, tiwtor y cwrs, wedi gwehyddu helygen ers 2008.  Mae hi wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau mawr, mwyaf diweddar yn cynhyrchu 70 basged rhodd i Arweinwyr y Byd oedd yn mynychu Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd.

Enillodd Sarah Wobr Arddangosfa Crefft Gwnaed â Llaw, Caerdydd yn 2015. Mae hi’n tyfu ei helygen ei hun yng Nghaerffili sydd yn rhoi ffynhonell gynaliadwy iddi trwy’r flwyddyn.

Bydd eich tiwtor Sarah yn eich tywys trwy’r cwrs cam wrth gam ac yn sicrhau eich bod yn mynd adref gyda rhywbeth gallwch fod yn falch ohonno.

Gallwch sicrhau eich lle ar y cwrs yn uniongyrchol gyda Sarah Hatton ar y linc yma.