Date (s)

2 Mai 2018

Time

6:45 pm - 8:45 pm

Cwrs wyth wythnos i rheiny sy’n dymuno dysgu gweithio gyda gwydr ymdoddedig.

Gwydr ymdoddedig yw haenau o wydr sy’n cael eu gwresogi yn yr odyn nes iddyn nhw ymdoddi gyda’i gilydd. Fel rheol mae crefftwyr yn defnyddio gwydr ymdoddedig i greu gemwaith hardd ac unigryw yn ogystal â theils addurnol gwydr, bowlenni syml, addurniadau Nadolig a.a.

Yn y gweithdy yma byddwch yn dysgu technegau addurno mewn modd strwythuredig.  Anelir y cwrs yma at ddechreuwyr pur sydd heb unrhyw brofiad o weithio â gwydr.

Y ffi tiwtora yw £70 am y cwrs wyth wythnos gyfan. Bydd tal bach ychwanegol am danio a deunydd.  Rhaid talu am yr wyth wythnos yn llawn ar ddechrau’r cwrs.

Cynhelir mwy o gyfresi o wyth gweithdy i ddechreuwyr yn y dyfodol.