Date (s)
2 Mai 2018
Time
6:45 pm - 8:45 pm
Cwrs wyth wythnos i rheiny sy’n dymuno dysgu gweithio gyda gwydr ymdoddedig.
Gwydr ymdoddedig yw haenau o wydr sy’n cael eu gwresogi yn yr odyn nes iddyn nhw ymdoddi gyda’i gilydd. Fel rheol mae crefftwyr yn defnyddio gwydr ymdoddedig i greu gemwaith hardd ac unigryw yn ogystal â theils addurnol gwydr, bowlenni syml, addurniadau Nadolig a.a.
Yn y gweithdy yma byddwch yn dysgu technegau addurno mewn modd strwythuredig. Anelir y cwrs yma at ddechreuwyr pur sydd heb unrhyw brofiad o weithio â gwydr.
Y ffi tiwtora yw £70 am y cwrs wyth wythnos gyfan. Bydd tal bach ychwanegol am danio a deunydd. Rhaid talu am yr wyth wythnos yn llawn ar ddechrau’r cwrs.
Cynhelir mwy o gyfresi o wyth gweithdy i ddechreuwyr yn y dyfodol.