Date (s)

16 Ionawr 2020

Time

10:00 am - 12:00 pm

Dysgwch i beintio a lluniadu pethau botanegol gan ddefnyddio haenau o ddyfrlliw tryloyw er mwyn creu delweddau llawn golau a lliw.  Byddwn yn ystyried manylder a  gwirionedd strwythur ond bydd digon o gyfle am ddehongliad personol a chyfansoddiad llawn dychymyg.

Bydd y cwrs yn rhedeg fel wyth gweithdy wythnosol.  Y gost yw £70 ar gyfer yr wyth sesiwn llawn. Bydd tal bach ychwanegol ar gyfer deunydd.

Dyddiadau’r gweithdai: Mai 10fed, Mai 17eg, Mai 24ain, Mai 31ain, Mehefin 7fed, Mehefin 14eg, Mehefin 21ain gyda’r gweithdy olaf ar Fehefin 28ain.