Date (s)

10 Rhagfyr 2017

Time

10:00 am - 4:00 pm

Ydyn ni wedi ailgreu’r porslen mwyaf godidog a wnaethpwyd erioed?
Dewch i ddargonfod yn ein Dydd Agored ar Ddydd Sul Rhagfyr 10fed

Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol bod tîm yng Nghrochendy Nantgarw dros y misoedd diwethaf wedi bod yn gweithio ar brosiect ymchwil a datblygu cyffrous ac uchelgeisiol i ddysgu mwy am borslen byd enwog Nantgarw.  Mae’r tîm wedi ceisio ailgreu’r rysáit, oedd yn gyfrinach, ar gyfer porslen anhygoel William Billingsley i weld os, trwy ddefnyddio gwybodaeth a chyfarpar modern, gallent oresgyn y problemau tanio oedd yn dinistrio  90% o’r cynnyrch yn yr odynau.

Os yn llwyddianus, dyma fydd y tro cyntaf i borslen gael eu creu yn Nantgarw ers i William Billingsley gyrraedd y Crochendy 200 o flynyddoedd yn ôl. Mae cynlluniau i’r dyfodol i gomisiynu ceramegyddion cyfoes i greu gwaith newydd o’r porslen.  Mae grant oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru ac ymgyrch ariannu torfol ar blatfform Art Happens yr Art Fund wedi ariannu’r prosiect.

Rydym nawr mewn sefyllfa i rannu’r llwyddiannau hyd yma ac yn eich gwahodd i ymuno â ni yn ein Dydd agored yng Nghrochendy Nantgarw ar Ddydd Sul Rhagfyr 10fed. Bydd arddangosfa fach o’r prosiect. Hefyd, bydd rhai yn dangos y technegau cerameg defnyddiwyd ar y prosiect ynghyd â theithiau tywys o’r Amgueddfa a’r Crochendy.

Rhwng 2yp a 4yp bydd perfformiadau gan rhai o’r band ifanc Nantgarw sy’n chwarae alawon traddodiadol Cymreig ac yn dangos clocsio, efallai bod rhai o’r stepiau wedi cyrraedd Nantgarw gyda’r gweithwyr o Staffordshire daeth i weithio yn y Crochendy yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gan fod Nadolig yn nesàu bydd, wrth gwrs, mins peis, gwin twym a danteithion amrywiol yn ystafell de’r Crochendy.