I sicrhau gwasanaeth gwell i rheiny sy’n mynychu gweithdai crochenwaith yng Nghrochendy Nantgarw rydym wedi penderfynu gwneud nifer o newidiadau. Bydd y newidiadau yn weithredol o Fedi’r 1af.
Bydd Crochendy Nantgarw yn rhedeg pob gweithdy crochenwaith yn uniongyrchol yn hytrach na gweithdai unigol sy’n cael eu rhedeg yn ymreolus gan bob tiwtor. Bydd Sally Stubbings a Freya James yn parhau fel eich tiwtoriaid a gall tiwtoriaid eraill cael eu hychwanegu dros amser. Bydd y ffioedd rydych yn talu yn aros yr un peth ond byddant yn cael eu talu yn uniongyrchol i Grochendy Nantgarw bydd wedyn yn talu’r tiwtoriaid i redeg y cyrsiau. Crochendy Nantgarw fydd yn gyfrifol am gynnwys cyrsiau, iechyd a diogelwch ac yswiriant a.a. Bydd ymholiadau ynglyn a chyrsiau yn dod o ac yn cael i dderbyn gan un cyfeiriad ebost workshops@nantgarwchinaworksmuseum.co.uk.
Dyma rhai o’r buddiannau a welwch o ganlyniad i’r newidiadau yma:
- Bydd pob tiwtor yn ceramegydd cymwys proffesiynol gyda chymwysterau dysgu ychwanegol dysgu.
- Bydd pob tiwtor a phrofiad o ystod o sgiliau cerameg yn cynnwys adeiladu a llaw, taflu ar yr olwyn, castio slip a gwydro. Byddant a phrofiad o weithio gyda chlai amrywiol a slipiau yn cynnwys crochenwaith, porslen a tsieni esgyrn.
- Os bydd tiwtor yn sal neu dim ar gael byddwn yn ceisio darparu tiwtor arall i sicrhau parhad.
- Os na fedrwch fynychu dydd penodol efallai bydd cyfle i drosglwyddo chi i ddydd arall yn ystod yr wythnos yna (yn amodol ar argaeledd).
- Mae gan bob tiwtor a Chrochendy Nantgarw yswiriant rhwymedigaeth cyhoeddus.
- Mae gan bob tiwtor Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) pellach sy’n caniatau iddynt weithio gyda phobl ifanc ac oedolion bregus.
- Bydd disgownt 10% yn yr ystafell de i rheiny sydd wedi cofrestru ar ein cyrsiau.
- Cyhoeddir o flaen llaw amserlen flynyddol i’r gweithdai byddant hefyd ar dudalen.
Mae’r gweithdai canlynol yn rhedeg ar hyn o bryd. Cysylltwch ar 01443 844 131 neu ebostiwch i gadarnhau argaeledd.
Gweithdy Crochenwaith i Ddechreuwyr (Nos Iau 6.45pm – 8.45pm)
Gweithdy newydd i rheiny sy’n dechrau o’r newydd. Mae’r niferoedd yn y dosbarth yn fach, yn strwythuredig a gyda digon o diwtora unigol. Byddwch yn dysgu dealltwriaeth o glai ac odynau, taflu ar yr olwyn, adeiladu a llaw, gweithio gyda slipiau a gwydrau a thechnegau addurno arwyneb eraill. Y gost yw £10 y person (yn cynnwys costau tanio)*
Gweithdai Crochenwaith yn y Dydd (Dydd Mercher a Dydd Gwener 10am – 12 hanner dydd)
I rheiny sydd a pheth profiad. Gallwch fod yn greadigol ar eich pen eich hun ond gallwch alw ar arbenigedd y tiwtor i helpu pryd y mynnwch. Gallwch adeiladu a llaw, taflu ar yr olwyn, slipcastio a gweithio gyda slipiau a gwydrau. Y gost yw £5 y person. Bydd tal bach ychwanegol yn cael ei godi ar gyfer tanio*.
Gweithdai Min Nos Chrochenwaith a Gwydr (Dydd Mawrth a Dydd Mercher 6.45pm – 8.45pm)
Boed yn gweithio gyda gwydr neu grochenwaith bydd ein tiwtoriaid yn helpu chi wireddu eich uchelgais yn ogystal a dysgu unrhyw sgiliau newydd rydych eisiau meistroli. Y gost yw £5 y sesiwn. Bydd tal bach ychwanegol yn cael ei godi ar gyfer tanio*.
Gweithdai Peintio Botaneg (Bore Dydd Iau 10am – 12 hanner dydd)
Dosbarth gweithdy newydd ar gyfer rheiny sydd a diddordeb mewn peintio botaneg. Roedd William Billingsley yn adnabyddus fel peintiwr blodau yn enwedig ar gyfer ei liniau o rosynnau ac mae nifer o esiamplau hardd o arlunio blodau ar borslen Nantgarw. Mae llu o flodau yn ardd yr Amgueddfa gall cael eu defnyddio fel enghreifftiau i’r dosbarth. Y gost yw £5 y person.
*Gallwch brynu clai a gwydr yn uniongyrchol o Grochendy Nantgarw am bris rhesymol.
Trwy gydol y flwyddyn byddwn yn rhedeg nifer o ddosbarthau meistr a gweithdai undydd ble bydd arbenigwyr adnabyddus gwladol yn rhannu eu sgiliau. Bydd eisiau talu am y sesiynau yma ond bydd disgownt i rheiny sydd wedi cofrestru ar gyfer y gweithdai.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn dod i ymuno a ni
I sicrhau lle, ebostiwch neu galwch ar 01443 844 131