Pam mae Porslen Nantgarw mor arbennig?

Crochendy Nantgarw yw’r unig gwaith porslen o’r 19eg canrif gynnar sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig. Yn y blynyddoedd 1813-1814 ac eto yn y cyfnod 1817-1820 cynhyrchwyd yma yng Nghymru, y porslen mwyaf gwych yn y byd gan William Billingsley un o arlunwyr a chynhyrchwyr porslen mwyaf hynod ei gyfnod.

Beth yw porslen

Mae porslen yn fath o cerameg wydredig gyda chorff gwyn, graen man a gan amlaf yn dryloyw, yn wahanol i briddlestri sydd yn hydraidd, yn afloyw ac yn arw.

Fathau o borslen

Mae yna dau brif fath o borslen:

  • Porslen past-caled yn nodweddiadol o’r porslen a gynhyrchwyd gan y Tsieineaid am fwy na mil o flynyddoedd. Mae hwn yn galed tu hwnt, yn llwydaidd ei liw gyda pheth tryleuedd. Rhaid yw ei danio ar dymheredd uchel iawn.
  • Mae porslen past-meddal yn dyddio’n ôl i ymgais gan grochendai Ewropeaidd yn yr 18fed ganrif i ddyblygu porslen Tsieineaidd wrth ychwanegu math o wydr wedi ei falu (a elwir ffrit) at gaolin. Mae’r porslen yn fwy meddal, yn medru cael ei danio ar dymheredd is ond yn aml â diffyg cryfder ac yn fwy tebygol o fethu yn ystod tanio. Mae’n ddrud i’w gynhyrchu oherwydd costau ychwanegol o danio’r ffrit a gyda chynhwysion gymharol ddrytach.

Hefyd mae yna hybrid – tsieni asgwrn sy’n ychwanegu lludw esgyrn i gynhwysion porslen past-caled i greu corff gwynach ac yn fwy tryloyw gyda chryfder ychwanegol ac sydd yn medru cael ei danio ar dymheredd is na phorslen past-caled.

Porslen Nantgarw

Yn Nantgarw llwyddodd William Billingsley i berffeithio ei rysait porslen gan ychwanegu amrywiaeth o gynhwysion dirgel ef ei hun. Llwyddodd i gynhyrchu’r porslen mwyaf perffaith a wnaethpwyd erioed.

Mae Porslen Nantgarw yn unigryw am ei fod yn gorff porslen past-meddal lludw esgyrn/sail ffrit na all unrhyw borslen arall ddod yn agos mewn tryleuedd na gwynder. Yn fwy, mae’r gwydredd ar Nantgarw yn ategu arlunio enamel ac yn rhoi gwir loywder i’r lliwiau ac yn gadael i’r paent i lifo i mewn i’r gwydredd.

William Billinsgley

Cwrdd â'r dyn wnaeth creu ein porslen byd enwog.

Self Portrait of Thomas Pardoe

Y Teulu Pardoe

Wnaeth Thomas Pardoe a'i ddisgynnyddion gweithio a byw yn Nhŷ Nantgarw tan y 1970au.

Nantgarw Cyfoes

Rydym yn creu cerameg o hyd yn y Crochendy yn Nantgarw.