Pan adawodd William Billingsley a Samuel Walker Nantgarw gadawyd cryn dipyn o borslen heb eu haddurno yn ‘y gwyn’. Er mwyn ailennill ei golledion wnaeth William Weston Young brynnu y stoc a’r offer a gwahodd Thomas Pardoe o Friste i addurno’r porslen.
Am y ddwy flynedd nesaf gwnaeth Thomas Pardoe gyda cymorth ei fab William Henry addurno’r porslen. Roedd Thomas Pardoe yn nodedig am beintio blodau ac adar ac wedi gweithio fel arlunydd cerameg yn ffatrioedd Derby, Worcester ac Abertawe.
Arhosodd Thomas Pardoe yn Nantgarw nes bu farw ym mis Gorffennaf 1823. Mae wedi ei gladdu yn eglwys Eglwysilan sydd hefyd yn fan gorffwys Lavinia.
Dros y deng mlynedd nesaf roedd y ffatri ar gau tra roedd William Henry Pardoe yn cynnal busnes peintiwr llestri a gwydr a hefyd yn gwerthu pibau clai.
Yn 1833 dychwelodd William Henry i Nantgarw ar brydles newydd a sefydlu ‘The Old Nantgarw China Works’ yn cynhyrchu poteli crochenwaith caled a llestri pridd gwydredd halen. Adeiladwyd odynau newydd a gynhyrchwyd nifer fawr o bibau clai.
Cafodd William Henry a’i wraig Mary teulu mawr o bedair ar ddeg o blant er i nifer ohonynt farw yn eu blynyddoedd cynnar. Gyda marwolaeth William yn 1867 rhedwyd y busnes gan ei wraig a’i meibion ieuengaf. Parhaodd Percival Pardoe i redeg y ffatri nes ei farwolaeth yn 1920. Erbyn hyn roedd dyfodiad sigarennau wedi lladd y farchnad am bibau clai a chaewyd y ffatri.
Bu disgynyddion y Pardoes yn byw yn Nhŷ Nantgarw nes y 1970au ond ar ôl ei adael yn wag syrthiodd y tŷ a’r hen Grochendy i ddadfeilion.