Mae llawer yn meddwl taw William Billingsley sydd yn y llun yma ‘Flower Painter of Derby’. Delwedd Amgueddfa Royal Crown Derby.

Blynyddoedd Cynnar

Ganwyd William Billingsley yn swydd Derby yn 1758. Prentisiwyd i weithfeydd Derby China Works William Duesbury yn 1774. Ym mis Hydref 1780 priododd â Sarah Rigley yn eglwys St Alkmunds yn Derby. Cawsant tri o blant, Sarah a anwyd yn 1783, James, a wnaeth farw yn ei blentyndod a anwyd yn 1793 a Lavinia a anwyd yn 1795.

Ei waith

Mae’n gysylltiedig yn bennaf gyda’r rhosyn a wnaeth ei arlunio ym mhob agwedd. Gwnaeth gyflawni modd newydd o beintio sef sychu’r paent i ffwrdd wrth lunio blodau. Mae’r ‘Prentice Plate’ a ddefnyddiwyd gan ffatri Derby fel safon anelu i brentiswyr newydd.

Wedi arbrofi tanio porslen yn ei odyn fechan ei hun yn ei dy ei hun, penderfynodd Billingsley adael Derby yn 1795. Er mor gain yr arlunio, ni allai’r prydferthwch ond cael ei amharu gan gorff israddol. O hyn roedd Billingsley yn hollol ymwybodol.

Symudodd yn gyson o un crochendy i’r llall. Yn Torksey, Lincolnshire daeth mewn cysylltiad â Samuel Walker a oedd i briodi ei ferch Sarah yn 1812. Cyrhaeddodd y teulu ffatri porslen Caerwrangon Flight, Barr a Barr a rhwng 1809 a 1812 roedd Billingsley yn gyfryngol wrth wella ei rysait porslen gan fod Walker yn gwellhau cynlluniau ei odynau.

Roedd ymadawiad o Gaerwrangon yn un sydyn ac yn dilyn terfyn eu cytundeb. Ymrwymwyd Billingsley a Walker gan y perchnogion yn y swm o £1,000 i beidio â datgelu i unrhyw drydydd barti manylion am y ‘ffordd newydd o gyfansoddi porslen’ yr oeddent wedi datblygu yng Nghaerwrangon.

Nantgarw

Mae hanes eu dyfodiad i Nantgarw a’r stori i ddilyn i’w weld ar weddill y wefan.

Yn dilyn ymadael a Nantgarw wnaeth Billingsley weithio i ffatri Coalport. Bu farw ar 16eg o Ionawr 1828, bron heb neb i alaru, a chladdwyd mewn bedd dienw ym mhlwyf Kemberton ger Coalport.