Mae tim sy’n gweithio yn Amgueddfa Crochendy Nantgarw wedi llwyddo ail greu’r rysáit i borslen enwog Nantgarw sydd heb ei gynhyrchu ers dau gan mlynedd.

Crëwyd porslen Nantgarw gan William Billingsley yn 1813. Oherwydd ei wynder a’i dryloywder anhygoel, ystyrir porslen Nantgarw gan nifer fel y porslen mwyaf godidog a wnaethpwyd erioed. Ond oherwydd anawsterau wrth danio’r corff cywrain yma yn yr odynau potel, dinistrwyd hyd at 90% o’r gwaith a achoswyd i’r ffatri gau ar ôl ond pedair blynedd o gynhyrchu. Mae’r porslen Nantgarw gwreiddiol yma yn awr yn hynod o gasgliadwy gyda rhai darnau yn newid dwylo am rai miloedd o bunnoedd.

Nawr, drwy gyfuniad o ymchwil hanesyddol trylwyr, dadansoddiad fforensig o ddarnau llestri ac arbrofi, mae’r tim sydd wedi ei lleoli yn Amgueddfa Crochendy Nantgarw wedi llwyddo ail greu’r rysáit gwreiddiol a hefyd wedi llwyddo tanio gwaith newydd o Borslen Nantgarw.

Cafodd y prosiect, sydd wedi rhedeg dros y chwe mis diwethaf, ei ariannu gan Grant Ymchwil a Datblygu o Gyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â thrwy ymgyrch arloesol ariannu torfol a redwyd ar lwyfan Art Happens yr Art Fund. Cafodd y darnau cyntaf o’r porslen eu cynyrchu fel un o’r gwobrau i roddwyr i’r ymgyrch ariannu torfol.

Yn ol rheolwr y prosiect, Charles Fountain, nid yw’r gorchwyl wedi bod yn un hawdd gan orfodi i’r tim dynnu oddi ar arbennigaeth nifer o brifysgolion, cemegwyr diwydiannol, gwneuthurwyr cyfredol yn ogystal ag arbennigwyr ym meysydd cerflunio, crewyr-mowldiau a chastwyr slip.

“Does neb wedi creu porslen fel hyn am y rhan helaeth o ddau gan mlynedd ac felly mae wedi bod yn hanfodol i ni orfod addasu a datblygu technegau newydd nid yn unig i greu ond hefyd i fowldio, slip gastio ac i danio’r gwaith newydd yn llwyddiannus. Mae’r porslen newydd yn weledol bron yr unfath a’r gwreiddiol ac yn arddangos yr un tryloywder anhygoel. Yn hollol ddidwyll dwi’n dweud, mae’n brydferth, hollol unigryw ac yn annhebyg i unrhyw gorff cerameg sydd ar gael heddiw.”

Cynhaliodd Howell Edwards, Athro Emeritws sbectrosgopeg foleciwlaidd Brifysgol Bradford, dadansoddiad o’r porslen newydd a’i gymharu â dadansoddiad tebyg a wnaeth ar ddarnau o’r Nantgarw gwreiddiol yn gynarach yn y flwyddyn. Yn ei farn “Mae’r canlyniadau yn dangos fod dadansoddiad sbectrosgopeg y Nantgarw gwreiddiol a’r Nantgarw newydd bron yr unfath, gyda’r gwahaniaethau bychain a ddengys yn hawdd i’w priodoli i ffynnonellau’r deunydd crai.”

Dywed Sally Stubbings, ceramegydd breswyl Crochendy Nantgarw, sydd wedi arwain datblygiad y porslen a’r gwaith slip gastio’r corff newydd, “Rydym wedi dysgu cymaint mwy am y porslen ac yn deall yn awr yr anawsterau a chafwyd wrth danio’r corff cerameg hwn yn y bedwaredd ganrif ar hugain cynnar. Seiliwyd nifer o’u problemau wrth fethu medru rheoli yn gywir gwres a thymheredd yr odynau potel cynnar. Wrth ddefnyddio odynau trydannol modern fe sylweddolon fod hyd yn oed ychydig raddau o wahaniaeth yn y tymeredd yn cael effaith mawr ar sut oedd y porslen yn ymddwyn. Amhosib fyddai cael y lefel yma o reolaeth tu fewn odyn potel sy’n cael ei danio a glo.”

Mae’r tim yn cydnabod mai’r rhain yw’r camau cyntaf a bod yna tipyn o waith i’w gyflawni eto.
Yn ol Charles Fountain, “Pob dydd dysgwn fwy a fwy am y porslen a sut mae cael y gorau ohonno. Hyd yma mae’n addas am slip gastio a gwasg fowldio ond edrychwn ymlaen at geisio cynnyddu hyblygrwydd y porslen i’w wneud yn gymwys i adeiladu gyda llaw ac i’w daflu ar olwyn crochenydd.”

“Byddwn yn canolbwyntio nawr ar gomisiynu arlunwyr cyfoes cyffrous i greu gwaith newydd o’r porslen y bydd Ymddiriedolaeth Crochendy Nantgarw yn gobeithio cyflwyno mewn arddangosfa yn 2019.”

Gallwch weld esiamplau o’r porslen newydd mewn arddangosfa fechan yn Amgueddfa Crochendy Nantgarw bydd yn rhedeg hyd ddiwedd mis Ionawr 2018. Gwelwch y wefan am amserau agor.